Mae AS Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, ymysg grŵp o Aelodau Seneddol sy’n galw ar y swyddfa basbort i dalu iawndal i bobol oherwydd yr oedi yn eu cais am basbort eleni.

Mewn adroddiad newydd, mae’r Pwyllgor Materion Cartref yn beirniadu’r Swyddfa basbort gan ddweud ei bod wedi rhoi cynlluniau gwyliau tua hanner miliwn o bobol mewn peryg am nad oedd yn gallu ymdopi a’r “nifer fwyaf o geisiadau ers 12 mlynedd.”

Roedd rhai pobol wedi gorfod talu £30 ychwanegol am wasanaeth prosesu cyflym oherwydd yr oedi, ac yn ôl y pwyllgor dylid talu’r arian yma’n ôl.

Yn sgil yr adroddiad, sy’n dweud nad oedd digon a staff ar gael i ddelio hefo’r ceisiadau, mae Paul Flynn yn galw ar y Llywodraeth i greu mwy o swyddi yn swyddfa basbort Casnewydd, er mwyn osgoi argyfwng tebyg yn y dyfodol.

Casnewydd

Cafodd 150 o swyddi eu colli yng Nghasnewydd yn 2011 ar ôl i’r Swyddfa Basbort gael ei hisraddio. Ac yn ôl Paul Flynn, y llywodraeth sydd ar fai am yr oedi diweddar ar ôl cwtogi’r swyddi hyn:

“Y Llywodraeth wnaeth greu’r argyfwng drwy gwtogi ar swyddi – mae’r bai arnyn nhw ac mae fyny iddyn nhw i roi’r swyddi yn ôl,” meddai Paul Flynn ar y Post Cyntaf bore ma.

“Rwy’n galw ar y llywodraeth i greu mwy o swyddi, ac fe ddylen nhw ddod i’r ardaloedd a gollodd swyddi yn 2011.”

Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell y dylai unrhyw swyddi ychwanegol yn y dyfodol gael eu lleoli yn yr ardaloedd a ddioddefodd o ddiswyddiadau yn y Swyddfa Basbort yn y gorffennol.

Dywedodd y Swyddfa Gartref ei bod am geisio sicrhau na fydd argyfwng tebyg yn digwydd eto.