Y Prif Weinidog David Cameron (llun: PA)
Dywed y Prif Weinidog David Cameron ei fod yn benderfynol o ddifa’r grŵp o eithafwyr “dieflig” a lofruddiodd y gweithiwr elusen David Haines.

Mewn datganiad ar ôl cadeirio cyfarfod o bwyllgor argyfwng y llywodraeth, Cobra, y bore yma, cyhoeddodd y byddai Prydain yn barod i gymryd “pa bynnag gamau sydd eu hangen” i helpu mewn cyrch rhyngwladol yn erbyn Islamic State.

Gan ddisgrifio David Haines fel arwr, dywedodd fod y llywodraeth yn benderfynol o ddal y rhai sy’n gyfrifol am ei ladd.

“Nid Mwslimiaid yw Islamic State ond bwystfilod,” meddai David Cameron, gan ychwanegu na allai Prydain fforddio ag anwybyddu’r bygythiad mawr y mae’r jihadyddion yn ei beri i ddiogelwch Prydain a diogelwch y byd.

Roedd Islamic State wedi cyhoeddi fideo yn dangos y gweithiwr elusen 44 oed yn cael ei lofruddio â chyllell gan wrthryfelwr, sy’n ymddangos fel petai’n siarad ag acen Seisnig.

Cafodd David Haines ei gipio yn Syria ym mis Mawrth y llynedd.