Ian Paisley
Mae cyn-arweinydd plaid unoliaethol y DUP yng Ngogledd Iwerddon, Dr Ian Paisley, wedi marw heddiw yn 88 oed.

Fe gadarnhaodd ei weddw Eileen Paisley y newyddion y prynhawn yma, gan ddweud fod y teulu’n torri’u calonnau yn dilyn marwolaeth y dyn fu’n rhan enfawr o wleidyddiaeth Gogledd Iwerddon am dros hanner canrif.

Bu’n Weinidog Presbyteraidd a gafodd ei hyfforddi yn Ysgol Efengyliaeth Y Bari.

Roedd yn adnabyddus yn ei yrfa wleidyddol gynnar am ei safbwynt cryf unoliaethol a gwrthwynebiad llwyr i fagu unrhyw fath o ddeialog gwleidyddol â chenedlaetholwyr Gwyddelig.

Ond yn 2006 fe arwyddodd gytundeb hanesyddol â phlaid Sinn Fein i rannu pŵer yng Ngogledd Iwerddon, gan gwblhau’r trawsnewidiad gwleidyddol hwnnw.

Fe synnwyd llawer yn y wlad wrth i Ian Paisley fagu perthynas agos a chyfeillgar â Martin McGuiness, a ddaeth yn ddirprwy brif weinidog ar Ogledd Iwerddon ac oedd gynt yn bennaeth staff yn yr IRA.

Mae mab Ian Paisley, Ian Paisley Jr, bellach yn cynrychioli sedd ei dad yn Nhŷ’r Cyffredin.

Dywedodd Eileen Paisley y byddai angladd ei gŵr yn un breifat gyda theulu agos yn unig yno, ond y byddai gwasanaeth goffa gyhoeddus yn cael ei gynnal yn nes ymlaen eleni.