Yr wythnos hon mae Pontio wedi datgelu wrth gylchgrawn Golwg mae 100 o docynnau gafodd eu cynnig i’r cyhoedd ar gyfer eu Cyngerdd Gala agoriadol, sef cyngerdd gyda Bryn Terfel, Owain Arthur a Chôr Glanaethwy sydd i fod i ddigwydd ar nos Wener, Hydref 17.
Bu cwyno bod y tocynnau wedi gwerthu allan o fewn chwarter awr i fynd ar werth, a’r cyhoedd yn holi faint yn union o docynnau aeth ar werth.
Hyd nes yr wythnos hon roedd Pontio, y prosiect a reolir gan Brifysgol Bangor ac sydd wedi denu £30 miliwn o arian cyhoeddus, yn gwrthod dweud faint o docynnau oedd ar gael i’w prynu am £25 yr un.
Tra bo 486 o lefydd yn Theatr Bryn Terfel ar gyfer y Gala Agoriadol, 100 o’r seddi oedd ar gael i’r cyhoedd, a hynny er mwyn cadw llefydd ar gyfer ffrindiau a theuluoedd yr artistiaid sy’n perfformio ar y noson. Hefyd mae 70 o lefydd wedi eu cadw ar gyfer gweithwyr teledu.
‘Peidiwch â chicio Pontio’
Er yn cydnabod bod Pontio wedi cael dechrau sigledig trwy orfod canslo’r ddrama Chwalfa yn ddiweddar a gohirio unrhyw berfformiadau pellach tan Hydref 15 ar y cynharaf, a hynny am nad yw’r adeilad yn barod, dywedodd Rhun ap Iorwerth AC Môn wrth Golwg bod angen cefnogi’r fenter.
“Mae pawb, yn amlwg, yn ei gweld hi’n siom bod Pontio yn dechrau fel hyn. Ond yr hirdymor sy’n bwysig efo Pontio.
“Rydw i’n edrych ymlaen at gael canolfan ar gyfer gwasanaethu’r celfyddydau a meysydd eraill ar draws gogledd orllewin Cymru.
“Ddyla ni ddim gadael i unrhyw siom ynglŷn â’r wythnosau cyntaf dynnu oddi ar be dw i’n wybod fydd yn llwyddiant mawr i Pontio yn y blynyddoedd i ddod.
“Dw i ddim yn meddwl bod cicio Pontio rŵan yn gwneud lles i unrhyw un.”