T. James Jones
Fe fydd cyfieithydd gwaith enwoca’ Dylan Thomas yn datgelu rhai o gyfrinachau Cymraeg y bardd yng Ngŵyl Golwg yn Llanbed ddydd Sul.
Ac, mewn sgwrs o’r enw Yn Ôl i’r Wenallt, fe fydd Jim Parc Nest – T. James Jones – hefyd yn olrhain rhywfaint o gysylltiad Dylan Thomas â Dyffryn Teifi, nid yn unig Cei Newydd ond ardaloedd fel Llanbed hefyd.
Fe fydd yn dangos sut yr oedd wedi defnyddio tafodiaith Dyffryn Teifi a Sir Gaerfyrddin, a honno’n llwyddo i gyfleu iaith y bardd Saesneg i’r dim.
Jim yn actio’r rhannau
Ond un o uchafbwyntiau ei sesiwn yn yr Ŵyl fydd clywed Jim Jones yn darllen darnau o’i gyfieithiad newydd o Under Milkwood, gan actio rhan nifer o’r cymeriadau.
Roedd perfformiad tebyg wedi hudo cynulleidfa yng Nghanolfan Dylan Thomas ddechrau’r haf, gyda thystiolaeth drawiadol fod Dylan Thomas yn deall llawer mwy o Gymraeg nag yr oedd pobol yn ei feddwl.
Fe fu’n rhaid i Jim Jones fynd yn ôl at ei gyfieithiad o’r ddrama, Dan y Wenallt, ar ôl cyhoeddi golygiad newydd Saesneg ohoni.
Fe roddodd hynny’r cyfle iddo wella a chryfhau ambell ddarn – mae’n dweud ei hun ei fod wedi aeddfedu o ran profiad byw a gallu sgrifennu ers y trosiad cynta’ yn ôl yn y 60au.
Diwrnod cyfan o ŵyl
Yn Ôl i’r Wenallt fydd yn cloi gweithgareddau llenyddol Gŵyl Golwg sy’n cael ei chynnal trwy’r dydd ddydd Sul ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbed.
Fe fydd sesiynau hefyd i drafod technoleg ddigidol, gweithgareddau i blant bach a pherfformiadau acwstig gan artistiaid sy’n amrywio o Gildas i Ail Symudiad.
Dim ond £6 yw’r pris i oedolion am y diwrnod cyfan; mae plant dan 13 oed am ddim a thocyn i bobol ifanc rhwng 13 ac 18 oed yn ddim ond £3.