Richard III
Mae dynes o Lundain wedi dweud ei bod yn siomedig ar ôl gweld pysgodyn aur byw yn cael ei “gam-drin” mewn cynhyrchiad o’r ddrama lwyfan Richard III oedd yn cynnwys yr actor Martin Freeman yn y brif ran.

Daeth Martin Freeman i’r amlwg yn The Office cyn camu ymlaen i serenu yn Sherlock, The Hobbit a Fargo.

Yn ôl y ddynes sy’n cwyno, cafodd y pysgodyn ei “wasgu yn erbyn ochr tanc gyda’r graean” wrth i un o aelodau’r cast drochi ei hun yn y dŵr yn ystod golygfa.

Mewn ymateb i’r gŵyn mae cymdeithas PETA, sy’n ymgyrchu dros hawliau anifeiliaid, wedi sgrifennu at gyfarwyddwr y cynhyrchiad, Jamie Lloyd, yn galw arno i roi’r gorau i ddefnyddio anifeiliaid fel math o adloniant.

Aflonyddu

“Pan gafodd corff Richard III ei ddarganfod ychydig flynyddoedd yn ôl, nid oedd yn gallu teimlo unrhyw boen – ond mae pysgod aur yn cael eu haflonyddu bob noson yng nghynhyrchiad Stiwdios Trafalgar o Richard III,” meddai cyfarwyddwr PETA, Mimi Bekhechi yn y llythyr.

“Mae PETA yn argyhoeddi na fydd y cynhyrchiad hwn yn un modern nes bod Jamie Lloyd yn rhoi’r gorau i feddwl bod cam-drin anifeiliaid yn ‘diddanu’r gynulleidfa’.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Stiwdios Trafalgar am ymateb.