Cafodd gwleidyddion o San Steffan oedd yng Nglasgow ddoe yn ymgyrchu ar ran Better Together eu tarfu gan ddyn a fu’n eu dilyn ar hyd y strydoedd gan chwarae cerddoriaeth Star Wars.
Roedd y dyn ar gefn rickshaw ac yn chwarae cerddoriaeth yr ‘Imperial Death March’ yn uchel – y miwsig sy’n gysylltiedig â’r ymerodraeth ddrwg yn y gyfres ffilm boblogaidd.
Ymysg y rheiny yn cael eu dilyn oedd ASau Llafur ac aelodau o gabinet cysgodol y blaid, Caroline Flint a Kate Green.
Mae’r fideo bellach wedi ymddangos ar YouTube, gyda’r dyn yn procio hwyl ar y gwleidyddion sydd wedi teithio fyny o Lundain yr wythnos hon i geisio perswadio pobl yr Alban i bleidleisio Na yn y refferendwm ar annibyniaeth ar 18 Medi.
“Pobl Glasgow, dyma’ch meistri imperialaidd,” gwaedda’r dyn. “Mae’r bobl yma wedi teithio o Lundain i ddweud wrthym ni eu bod nhw’n well i’n rheoli ni nac unrhyw un arall.”
Mae’r ymgyrchu o ddifrif hefyd yn parhau heddiw wrth gwrs, a’r prynhawn yma fe ryddhawyd pôl piniwn arall gan yr ICM a’r Guardian oedd yn dangos yr ymgyrch Na ar y blaen o 51-49%.