Mae’r Gweinidog Busnes Matthew Hancock wedi ymddiheuro ar ôl cyfaddef iddo gamddefnyddio amlenni Tŷ’r Cyffredin yn groes i’r rheolau.

Fe ad-dalodd Hancock, sydd yn Aelod Seneddol dros Orllewin Suffolk, y £1,674 yr oedd wedi’i gamwario.

Fe ddefnyddiodd yr AS amlenni a phapur Tŷ’r Cyffredin er mwyn anfon llythyrau i’w etholwyr yn brolio gorchestion y llywodraeth, yn ogystal â holiadur yn gofyn am eu barn ar nifer o faterion.

Dywedodd y Comisiynydd Seneddol dros Safonau, Kathryn Hughes, fod Matthew Hancock nawr wedi cytuno i dalu’r arian yn ôl wedi iddo ddefnyddio 3,100 o amlenni a 6,200 o ddarnau o bapur.

Dywedodd yr AS nad oedd wedi ceisio torri’r rheolau’n fwriadol.

“Mae’n flin gen i fy mod wedi cael fy nghanfod yn euog o dorri’r rheolau ac rwy’n parchu’ch dyfarniad wrth ddod i’r casgliad hwnnw,” meddai Matthew Hancock.