Bryn Parry Jones
Mae cynghorwyr wedi pasio pleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn Prif Weithredwr Cyngor Sir Benfro, Bryn Parry Jones.

Daw’r penderfyniad heddiw mewn cyfarfod brys yn dilyn ffrae ynglŷn â thaliadau anghyfreithlon, wedi i Swyddfa Archwilio Cymru ddod i’r casgliad bod Bryn Parry Jones a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin, Mark James, wedi derbyn taliadau pensiwn o dros £50,000 yn syth i’w cyfrifon banc.

Fe bleidleisiodd 46 o gynghorwyr yn erbyn Bryn Parry Jones, gyda thri yn ei gefnogi, a thri yn atal eu pleidlais.

Arweiniad

Cafodd pleidlais o ddiffyg hyder ei chymryd yn erbyn arweinydd y cyngor, Jamie Adams, hefyd ond roedd mwyafrif yn ei gefnogi.

Roedd wedi cael ei feirniadu am gefnogi Bryn Parry Jones yn dilyn y ffrae am daliadau.

Fe wnaeth Bryn Parry Jones ddychwelyd i’w waith yr wythnos hon, ar ôl cyfnod o absenoldeb o’i swydd.