Aled Roberts
Mae aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi dweud ei bod yn “ergyd sylweddol” fod un o adeiladau prifysgol mwyaf Cymru yn cau ei ddrysau.
Cyhoeddodd Prifysgol De Cymru – gafodd ei sefydlu yn dilyn uno prifysgolion Casnewydd a Morgannwg y llynedd – eu bod yn cau campws Caerllion yng Nghasnewydd ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon.
Gwnaed y penderfyniad i gau’r adeilad er mwyn arbed costau cynnal a chadw, yn ôl adroddiadau.
Ond mae deiseb ar-lein wedi casglu 1,385 o enwau sy’n gwrthwynebu’r penderfyniad ac yn honni bod Llywodraeth Cymru yn mynd yn ôl ar ei gair, ar ôl dweud na fyddai adeiladau prifysgol yn cael eu cau.
Bradychu
“Dyma addewid arall yn cael ei dorri gan Lywodraeth Cymru. Dim ond y llynedd wnaeth y brifysgol uno ac fe gawsom ein hargyhoeddi na fyddai’n cau,” meddai’r AC Lib Dem Aled Roberts.
“Mae’n bryderus meddwl bod yr un person oedd yn gyfrifol am warchod addysg a phrifysgol yn gyfrifol am uno cynghorau lleol.”
“Mae’n ergyd sylweddol, nid yn unig i’r myfyrwyr ond i’r staff sydd a phob rhyddid i deimlo’n flin ac wedi’u bradychu.”
Mae golwg360 wedi gofyn i’r Brifysgol ac i Lywodraeth Cymru am eu hymateb.