Darn o awyren MH17 Malaysia Airlines
Mae’r prif arbenigwr fu’n ymchwilio i ddamwain awyren Malaysia Airlines MH17 dros Yr Wcráin wedi dweud ei bod yn “debygol iawn” i’r awyren gael ei saethu o’r awyr.
Daeth y cyhoeddiad gan Fred Westerbeke o Fwrdd Diogelwch yr Iseldiroedd (DSB) heddiw.
Bu farw 298 o bobl gan gynnwys 10 o Brydeinwyr yn y digwyddiad ar 17 Gorffennaf.
Nid oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb am y trychineb ond credir bod y Boeing 777 wedi cael ei tharo gan daflegryn a gafodd ei danio gan wrthryfelwyr sy’n gefnogol i Rwsia, wrth iddi hedfan dros Yr Wcráin.
Mewn ymchwiliad arall, dyfarnwyd bod yr awyren wedi cael ei tharo o’r tu allan gan sawl “gwrthrych pwerus”, oedd heb fod yn daflegryn.