Mae arolwg barn gafodd ei gynnal rhwng dydd Mawrth a ddoe yn awgrymu bod y bleidlais ar annibyniaeth i’r Alban am fod yn dynn iawn.

Yn ôl y pôl piniwn ar gyfer papur newydd y Guardian mae’r ymgyrch ‘Na’ am ddenu 42%, ‘Ie’ yn cael 40% o’r bleidlais. Mae  17% eto i benderfynu.

Dywedodd 87% o’r rhai a holwyd dros y ffôn eu bod yn hollol bendant o fwrw pleidlais.

Fe holodd ICM 1,000 o bobol ar ran y Guardian.