Mae costau aelodau seneddol bellach yn uwch nag yr oedden nhw yn anterth y sgandal am y taliadau.

Mae’r ffigurau sydd wedi eu cyhoeddi heddiw gan y corff costau, IPSA, yn dangos bod y cyfanswm bellach yn £103 miliwn – un milin yn uwch nag yn 2008-9.

Ar ben hynny, fe fu cynnydd yn nifer yr ASau sy’n cyflogi aelodau o’u teuluoedd neu bartneriaid busnes – arfer sydd wedi ei atal yn y Cynulliad.

Erbyn hyn, mae 170  o ASau yn gwneud hynny – mwy na chwarter y cyfanswm – a hynny’n cynnwys nifer o Gymru.

‘Arbed arian’

Roedd IPSA yn pwysleisio bod y drefn newydd o gostau wedi arbed arian – o ystyried chwyddiant, mae’r ffigwr yn is nag yr oedd bum mlynedd yn ôl.

Ond mae wedi codi £5 miliwn ers y llynedd ac roedd y rhan fwya’ o’r arian yn mynd ar gostau staffio.