Caerdydd yr wythnos ddiwetha'
Mae safon bywyd yng Nghaerdydd yn uwch nag yn unrhyw ddinas fawr arall yng ngwledydd Prydain, yn ôl adroddiad newydd – gan gipio’r safle cyntaf oddi ar y gelyn mawr, Bryste.

Fydd trigolion Caerdydd yn gorfod symud yn bell wrth iddyn nhw heneiddio chwaith, wrth i arolwg gwahanol awgrym mai Bro Morgannwg yw’r trydydd lle gorau ym Mhrydain i bobol ymddeol iddo.

Yn ôl ymchwil gan wefan MoneySuperMarket, Caerdydd yw’r orau o 12 dinas fwyaf gwledydd Prydain wrth ystyried ffactorau fel cynnydd prisiau tai, costau rhentu, cyflogau, costau byw, diweithdra a ‘hapusrwydd bywyd’.

Costau byw isel

Fe sgoriodd prifddinas Cymru’n uwch na’r cyfartaledd ym mhob un categori heblaw am gyflogau, gan gipio’r safle cyntaf oddi ar Fryste sy’n llithro i’r pumed safle.

Belffast ddaeth yn ail yn yr arolwg, gyda Bradford yn drydydd a Llundain yn bedwerydd.

Caerdydd oedd â’r costau byw isaf o’r holl ddinasoedd, gyda chyfartaledd o £359 yr wythnos o’i gymharu â £486 yn Llundain. Mae hynny’n cynnwys gwario ar fwyd a diod, dillad, nwyddau cartref, iechyd, teithio a hamdden.

Roedd cyfradd diweithdra Caerdydd o 8.1% hefyd ymysg yr isaf o’r holl ddinasoedd yn yr adroddiad.

Fodd bynnag, gyda refferendwm ar annibyniaeth ar y gweill, dangosodd yr adroddiad fod Caeredin a Glasgow yn yr hanner isaf, gyda phrisiau tai’n codi’n llawer arafach yno nag mewn dinasoedd eraill.

Dywedodd llefarydd ar ran MoneySuperMarket fod yr economi fel petai’n gwneud yn dda ar y cyfan, ond bod “y stori’n wahanol o ddinas i ddinas”.

Y tabl

Trefn y dinasoedd yn ymchwil MoneySuperMarket o ran safon byw:

1.Caerdydd, 2.Belfast, 3.Bradford, 4.Llundain, 5.Bryste, 6.Leeds, 7.Caeredin, 8.Manceinion, 9.Sheffield, 10.Glasgow, 11.Lerpwl, 12.Birmingham

Y Fro’n dod i’r brig

Yn y cyfamser mae cwmni yswiriant Prudential wedi rhyddhau ymchwil gwahanol sydd hefyd yn defnyddio ffigyrau swyddogol yn awgrymu bod Bro Morgannwg ymysg y llefydd gorau i ymddeol ym Mhrydain.

Yn ôl yr ymchwil, Swydd Dorset oedd y lle gorau i ymddeol, gyda Solihull yn ail a Bro Morgannwg, Swydd Buckingham a Gwlad yr Haf yn gydradd drydydd.

Roedd yr ymchwil wedi’i seilio ar nifer o ffactorau gan gynnwys iechyd da, os oedd pobl yn berchen eu cartref, statws priodasol a theithio.