Hywel Williams
Mae Plaid Cymru wedi datgelu eu polisi allweddol cyntaf ar gyfer Ymgyrch Etholiad San Steffan 2015 – Cyflog Byw a fyddai’n sicrhau codiad cyflog, medden nhw, i fwy na 250,000 o weithwyr Cymreig.
Dywedodd yr Aelod Seneddol, Hywel Williams, y byddai Cyflog Byw yn gwella safonau byw, yn helpu i greu swyddi ac yn rhoi hwb i economïau lleol.
“Mae Plaid Cymru’n credu na ddylai unrhyw un gael eu talu’n llai na maen nhw ei angen i fyw,” meddai wrth ymweld ag ardal Maesgeirchen ym Mangor.
“Drwy godi’r isafswm cyflog i’r un swm a’r Cyflog Byw, byddwn yn gallu codi safonau byw a rhoi hwb i economiau lleol gan y bydd gan bobol fwy o arian yn eu pocedi i’w wario.
“Tra bod Llafur, y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhy brysur yn ceisio achub yr Undeb yn hytrach na rhoi buddiannau Cymru’n gyntaf, mae Plaid Cymru yn dal ati gyda’r gwaith o greu cenedl fwy cyfiawn a ffynnianus i bawb o bobol Cymru.”