John Redwood (Llun: Freedom Association)
Mae cyn Ysgrifennydd Ceidwadol Cymru wedi dweud y dylai Cymru a Lloegr gael yr un math o senedd â’r Alban.
Mae’r datblygiadau yno’n golygu bod angen “ffederasiwn llac” rhwng cenhedloedd gwledydd Prydain, meddai John Redwood.
“Mae’r hyn sy’n ddigon da i’r Alban yn ddigon da i Loegr,” meddai mewn cyfweliad radio. “Ac os yw Cymru eisiau hynny, fe ddylai hithau elwa hefyd.”
Roedd John Redwood wedi gwrthwynebu datganoli yn y lle cynta’ ond yn derbyn bellach, meddai, fod y ddadl honno wedi ei cholli.
Roedd yn erbyn syniad y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, o gael mwy o rym i ranbarthau Lloegr ond yn dweud y byddai annibyniaeth i’r Alban yn golygu bod rhaid cael yr un math o drefn i Loegr.