Oscar Pistorius (Llun: PA)
Mae’r athletwr Olympaidd Oscar Pistorius wedi cyrraedd y llys yn Ne Affirca i glywed beth fydd ei dynged heddiw wrth i farnwr yn Ne Affrica ddyfarnu a yw’n euog o ddynladdiad.

Fe saethodd Pistorius ei gariad Reeva Steenkamp ar ddydd San Ffolant y llynedd yn ei gartref yn Pretoria, ond mae’n mynnu ei fod wedi meddwl mai lleidr oedd yno.

Ddoe fe gafwyd yr athletwr yn ddieuog o ddau gyhuddiad o lofruddiaeth, gyda’r barnwr Thokozile Masipa’n dweud nad oedd tystiolaeth oedd yn profi ei fod wedi lladd Steenkamp yn fwriadol.

Roedd yr emosiwn yn amlwg ar wyneb Pistorius wrth iddo glywed nad oedd yn euog o lofruddiaeth.

Ond fe ddywedodd y barnwr fod Pistorius wedi bod yn “esgeulus” ar y noson y saethodd ei gariad, gan awgrymu y gallai dal fod yn euog o ddynladdiad – neu ‘culpable homicide’ fel mae’n cael ei alw yn Ne Affrica.

Y digwyddiadau

Cafodd Reeva Steenkamp ei saethu’n farw tra oedd hi yn yr ystafell ymolchi, ar ôl i Pistorius saethu drwy’r drws caeedig gyda’i ddryll.

Dywedodd y barnwr wrth y llys yn Pretoria ddoe fod Pistorius wedi ymddwyn yn “fyrbwyll” a chyda “gormod o rym” pan saethodd y pedwar bwled drwy ddrws yr ystafell ymolchi.

Mae’r athletwr, a gafodd yr enw Bladerunner oherwydd ei fod yn rhedeg ar goesau prosthetig, wedi cyfaddef mai ef saethodd Reeva Steenkamp ond wedi mynnu wrth yr heddlu ei fod yn credu fod rhywun wedi torri mewn i’w dŷ.

Mae disgwyl i’r barnwr roi ei dyfarniad ar yr achos o ddynladdiad y bore yma, ac mae Pistorius hefyd yn wynebu cyhuddiadau llai o droseddau dryll.