Dan Biggar
Fe fydd y Dreigiau yn croesawu’r Gweilch i Rodney Parade nos yfory ar gyfer gêm ddarbi Gymreig gynta’r tymor.

Fe fydd y maswr rhyngwladol, Dan Biggar yn gwneud ei 150eg ymddangosiad dros y Gweilch, a bydd y chwaraewyr rhyngwladol Taulupe Faletau a Hallam Amos yn dychwelyd i’r Dreigiau.

Mae Amos yn dychwelyd yn dilyn llawdriniaeth ar ei ysgwydd gan olygu ei fod wedi methu’r daith i Dde Affrica. Fe fydd Faletau yn gwneud ei ddechreuad gyntaf i’r tymor tra bydd y clo Ian Gough yn herio ei hen dîm.

Does dim newid i dîm y Gweilch a wnaeth ennill yn erbyn Treviso y penwythnos diwethaf.

‘‘Mae’r Dreigiau wedi arwyddo nifer o chwaraewyr dawnus dros yr haf gan gynnwys nifer o chwaraewyr rhyngwladol, felly mi fydd hi’n gêm gystadleuol,’’ meddai rheolwr y Gweilch Steve Tandy.

‘‘Mae’r gemau darbi o hyd yn dod a’r cefnogwyr i’r stadiwm ac yn dod a’r gorau allan o’r chwaraewyr. Rwy’n siŵr bydd yr awyrgylch yn drydanol a safon uchel o rygbi,’’ meddai rheolwr y Dreigiau, Lyn Jones.

Mi fydd y gêm yn fyw ar BBC 2 Cymru am 7:35yh.

Tîm y Dreigiau
Olwyr – Lee Byrne (Capten), Hallam Amos, Tyler Morgan, Jack Dixon, Aled Brew, Jason Tovey a Jonathan Evans.

Blaenwyr – Boris Stankovich, Elliot Dee, Lloyd Fairbrother, Ian Gough, Rynard Landman, Lewis Evans, Nic Cudd a Taulupe Faletau.

Eilyddion – T. Rhys Thomas, Owen Evans, Dan Way, Andrew Coombs, Andy Powell, Richie Rees, Angus O’Brien a Tom Prydie.

Tîm y Gweilch
Olwyr – Dan Evans, Jeff Hassler, Andrew Bishop, Josh Matavesi, Eli Walker, Dan Biggar a Rhys Webb.

Blaenwyr – Nicky Smith, Scott Baldwin, Aaron Jarvis, Lloyd Peers (Capten), Rynier Bernardo, Joe Bearman, James King a Dan Baker.

Eilyddion – Sam Parry, Duncan Jones, Daniel Suter, Tyler Ardron, Morgan Allen, Martin Roberts, Sam Davies a Hanno Dirksen.