Farage ar y ffordd
Mae’r pol piniwn diweddara’ yn yr Alban yn rhoi’r ochr Na fymryn ar y blaen, ond yn dal i fod lawer yn uwch nag yr oedd fis yn ôl.

Yn ôl YouGov – y cwmni arolygon a roddodd Ie ar y blaen yr wythnos ddiwetha’ – y rhybuddion am yr effaith ar yr economi ac arian unigolion sydd wedi codi ofn ar rai pobol.

Mae’r pôl diweddara’r cwmni yn dangos fod gan Na 52% o’r rhai sy’n dweud eu bod yn sicr o bleidleisio ac Ie ar 48%.

Y gwahaniaeth mawr, yn ôl YouGov, yw fod merched, a oedd wedi dechrau troi’n gry’ at Ie, bellach yn fwy ofnus. Mae mwyafrif o ddynion yn dal i fod tros annibyniaeth.

Farage ar y ffordd

Ond mae arweinwyr yr ymgyrch Na yn anhapus am fod arweinydd plaid asgell dde UKIP, Nigel Farage, a’i haelod seneddol Ewropeaidd o Gymru, Nathan Gill, ar y ffordd i’r Alban i ymuno yn yr ymgyrch.

Mewn erthygl bapur newydd, mae Nigel Farage eisoes wedi dweud na fyddai gan Alban annibynnol yr hawl i ddefnyddio’r bunt.

Y disgwyl yw y bydd UKIP yn cynnal rali yn Glasgow lle mae Llafur hefyd yn ymgyrchu, gan gynnwys yr arweinydd presennol, Ed Miliband, a chyn Brif Weinidog Prydain, Gordon Brown.

Gweddill y dadlau

Mewn datblygiadau eraill, mae’r dadlau am ddyfodol rhai busnesau a banciau mawr yn parhau, gyda phrif was sifil Llywodraeth Prydain yn gwadu honiadau Prif Weinidog yr Alban fod y Trysorlys wedi torri’r rheolau trwy ollwng gwybodaeth am fwriad banc yr RBS i symud eu swyddfa gofrestredig i Lundain.

Dyna un o’r pynciau mewn dadl fawr o flaen pobol ifanc neithiwr, gyda Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn mynnu mai dim ond symud “placiau pres” oedd hynny, nid symud swyddi.

Fe fu gwrthdaro hefyd tros y Gwasanaeth Iechyd, gydag arweinydd Torïaid yr Alban, Ruth Davidson, yn cyhuddo’r ochr Ie o dwyllo trwy roi’r bai ar Lundain am doriadau – yn ôl Nicola Sturgeon, roedd rhaid cael rheolaeth tros gyfanswm yr arian, yn ogystal â thros bolisi.