Alex Salmond
Mae Alex Salmond wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus yn dilyn honiadau bod y Trysorlys wedi datgelu gwybodaeth “sensitif” am gynlluniau Banc Brenhinol yr Alban (RBS) i gofrestru’r banc yn Lloegr os yw’r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth.

Mae Prif Weinidog yr Alban ac arweinydd yr SNP wedi dweud bod yr honiadau bod ffynhonnell yn y Trysorlys wedi rhoi’r wybodaeth i’r BBC yn “ddifrifol iawn” ac mae wedi annog y BBC i gydweithredu gydag ymchwiliad posib.

Dywedodd Alex Salmond nad oedd hawl gan y Trysorlys i ddatgelu gwybodaeth a allai ddylanwadu ar y marchnadoedd arian.

Dywedodd RBS, sydd wedi bod yn yr Alban ers 1727, y byddai’n rhaid cofrestru cwmni daliannol y banc yn Lloegr petai pleidlais o blaid annibyniaeth.

Ond ychwanegodd mai mater cyfreithiol yn unig ydoedd ac na ddylai hynny gael effaith ar wasanaethau bancio i gwsmeriaid ac y byddai’n parhau i gadw nifer sylweddol o’i swyddi a’i swyddfeydd yn yr Alban.

Mae Grŵp Bancio Lloyds, sy’n berchen Halifax a Bank of Scotland, hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau i ail-gofrestru rhan o’r cwmni yn Lloegr pe bai’r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth yn y refferendwm ar Fedi 18.

Mae cynlluniau ar y gweill hefyd gan Standard Life i drosglwyddo rhannau o’r cwmni i Loegr “petai angen gwneud hynny.”

Mae Alex Salmond wedi wfftio’r pryderon gan ddweud bod yr Ymgyrch ‘Na’ yn ceisio “codi bwganod.”