Shaun Wright
Mae pleidlais o ddiffyg hyder wedi ei gymryd yn erbyn comisiynydd heddlu a throsedd De Swydd Efrog, Shaun Wright gan gorff sy’n goruchwylio ei waith, y Panel Heddlu a Throsedd.

Mae wedi wynebu galwadau cynyddol i ymddiswyddo yn dilyn adroddiad damniol i’r helynt a oedd wedi darganfod bod o leiaf 1,400 o blant yn Rotherham wedi cael eu cam-drin yn rhywiol dros gyfnod o 16 mlynedd.

Dyma’r tro cyntaf i Shaun Wright ymddangos o flaen y panel ers cyhoeddi’r adroddiad ar 26 Awst.
Roedd aelodau o’r cyhoedd wedi ymgynnull tu allan i Siambr y Cyngor gan weiddi arno i ymddiswyddo.