Mae Gwylwyr y Glannau yn apelio ar bobol sy’n mynd i’r môr ar gychod cyflym i wisgo cortyn diogelwch er mwyn atal yr injan os yw’n mynd allan o reolaeth.

Daw’r alwad yn dilyn digwyddiad ar Ynys Môn heddiw, lle cafodd dwy ddynes a dyn eu taflu o’u cwch i’r dŵr oddi ar arfordir Rhosneigr tua 12:30.

Roedd y cwch wedi bod yn eu hamgylchynu tra roedden nhw yn y dŵr ond fe lwyddodd y tri i nofio i’r lan.

Roedd gyrrwr y cwch wedi tynnu ei gortyn diogelwch ychydig cyn y digwyddiad.

‘Lwcus iawn’

“Fe allai’r digwyddiad yma fod wedi bod yn drasig ac roedd y tri yn lwcus iawn,” meddai un o’r rheolwyr yng Nghanolfan Cydgysylltu Achub ar y Môr yng Nghaergybi, Barry Priddis.

“Fe ddylai unrhyw un sydd ar gwch wisgo cortyn diogelwch drwy’r amser, os yw’r cwch yn llonydd neu’n symud.”

Ym mis Mai 2013, cafodd Nick Milligan, 51, a’i ferch Emily, 8, eu lladd yng Nghernyw ar ol cael eu taflu i’r dŵr o’u cwch mewn digwyddiad tebyg.