Jacintha Saldanha
Fe fydd cwest i farwolaeth nyrs, y cafwyd hyd iddi’n farw ar ôl iddi ateb galwad ffôn ffug ynglŷn â Duges Caergrawnt, yn dechrau heddiw.
Cafwyd hyd i Jacintha Saldanha, 46, yn farw yn ei fflat yn fuan ar ôl iddi gael ei thwyllo i roi manylion am gyflwr y Dduges, a oedd yn Ysbyty Brenin Edward VII yn Llundain ar y pryd yn dioddef o salwch bore difrifol.
Jacintha Saldanha oedd y nyrs gyntaf i ateb yr alwad ffôn gan y ddau DJ o Awstralia, Mel Greig a Michael Christian, a oedd wedi ei thwyllo i gredu mai’r Frenhines a Thywysog Philip oedd ar y ffôn.