Mae Banc Brenhinol yr Alban (RBS) a Grwp Bancio Lloyds wedi cyhoeddi cynlluniau i adleoli eu cwmniau i Loegr pe bai’r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth yn y refferendwm ar Fedi 18.
Fe fyddai’n golygu symud banciau Halifax a Bank of Scotland, sy’n rhan o Grwp Bancio Lloyds, ond maen nhw’n dweud na fyddai’r newid yn effeithio’n fawr ar gwsmeriaid.
Dywedodd RBS, sydd wedi bod yn yr Alban ers 1727, y byddai’n rhaid symud cwmni daliannol y banc i Loegr.
Ond ychwanegodd na ddylai hynny gael effaith ar wasanaethau bancio i gwsmeriaid ac y byddai’n parhau i gadw lefel sylweddol o’i swyddi a’i swyddfeydd yn yr Alban.
Mae cynlluniau ar y gweill hefyd gan Standard Life i drosglwyddo rhannau o’r cwmni i Loegr.
Ond mae Prif Weinidog Yr Alban, Alex Salmond wedi dweud mai “nonsens” yw awgrymu y byddai Standard Life yn troi ei chefn ar Yr Alban.
Dywed Grwp Bancio Lloyds eu bod nhw’n ymateb i bryderon gan gwsmeriaid, staff a chyfranddalwyr pe bai’r Alban yn mynd yn annibynnol.
Dywedodd llefarydd: “Er bod graddfa’r newidiadau posib yn dal yn aneglur, mae gyda ni gynlluniau wrth gefn yn eu lle…
“Trefn gyfreithiol yw hon ac ni fyddai unrhyw newidiadau ar unwaith na materion a allai effeithio ein busnes neu ein cwmseriaid.”
Ar raglen Newsnight y BBC neithiwr, dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander: “Pan fo cwmni fel Standard Life yn dweud y byddai’n rhaid, yn anffodus ac yn drist, iddyn nhw symud eu busnes i Lundain, dydy hynny ddim yn benderfyniad hawdd i’w wneud.
“Maen nhw’n ei wneud e ar y sail eu bod nhw’n credu mai dyna’r ffordd orau o amddiffyn eu cwsmeriaid o dan yr amgylchiadau newydd.
“Pan ydyn ni’n clywed bod Lloyds a banciau eraill yn egluro y bydd yn rhaid iddyn nhw wneud yr un fath, dydy hynny ddim yn rhywbeth maen nhw’n penderfynu heb ystyried yn ddwys.”