Oscar Pistorius
Mae disgwyl i’r athletwr Oscar Pistorius glywed beth fydd ei dynged heddiw wrth i’r barnwr ddechrau cyflwyno’i rheithfarn.
Mae Pistorius wedi ei gyhuddo o lofruddio ei gariad Reeva Steenkamp yn ei gartref ar ddydd San Ffolant y llynedd.
Er iddo gyfaddef ei lladd, mae’n dweud ei fod wedi gwneud hynny drwy ddamwain gan ei saethu drwy ddrws yr ystafell ymolchi am ei fod yn credu mai lleidr oedd hi.
Dros y misoedd diwethaf mae’r llys yn Pretoria wedi clywed gan ddwsinau o dystion ac wedi cael ei weld gan gynulleidfa ar draws y byd.