Dave Lee Travis
Mae un o’r tystion yn achos llys Dave Lee Travis wedi dweud ei fod yn credu bod ymosodiad honedig y DJ ar ferch oedd yn gweithio i’r BBC yn “ymosodol” yn hytrach na’n “chwareus”.
Dywedodd y digrifwr Dave Gorman, oedd yn gweithio ar raglen deledu’r BBC Mrs Merton Show, ei fod wedi clywed sïon fod Dave Lee Travis wedi gafael ym mronnau’r ferch wrth iddi ei dywys i’r stiwdio deledu ynghanol y 90au.
Mae’n dilyn sylwadau’r ferch sy’n gwneud yr honiad, wedi iddi ddweud ddoe fod Dave Lee Travis, 69, wedi syllu yn “angerddol” arni pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
“Roedd pawb yn y tîm yn gwybod am y digwyddiad. Ond, bryd hynny, fyddai’r ffonio’r heddlu i ddweud fod Dave Lee Travis wedi gafael ym mronnau’r ferch, heb fynd i unlle,” meddai Dave Gorman.
“Dw i’n cofio cael trafodaeth am y peth ac roedd rhai’n gofyn a oedd o’n rhywbeth chwareus. Roeddwn i’n credu ei fod yn ymosodol.”
Mae’r DJ yn sefyll ei brawf eto ar dri chyhuddiad o ymosod sy’n cael eu dwyn yn ei erbyn, ar ôl i reithgor fethu dod i benderfyniad yn gynharach y flwyddyn yma.