Mae teithwyr wedi cael eu symud o faes awyr Luton yn Sir Bedford ar ôl i becyn amheus gael ei ddarganfod yn yr adeilad.

Dywedodd llefarydd ar ran y maes awyr eu bod nhw wedi gwahardd awyrennau rhag glanio yno a bod y ffordd yn arwain at Luton hefyd wedi ei chau.

Ychwanegodd bod y penderfyniad i symud y teithwyr o’r adeilad wedi cael ei wneud gyda chymorth yr heddlu er mwyn sicrhau diogelwch y teithwyr a’r staff.

Mae’r maes awyr yn annog teithwyr i gysylltu â chwmnïau awyrennau er mwyn cael gwybodaeth am eu teithiau.

Bydd rhagor o wybodaeth maes o law.