Dug a Duges Caergrawnt
Mae’r Tywysog William a’i wraig Kate, yn disgwyl eu hail fabi.
Fe gadarnhaodd Clarence House heddiw fod Kate yn disgwyl unwaith eto, ac mae’r Frenhines eisoes wedi llongyfarch ei ŵyr a’i wraig yn dilyn y newyddion, gan ddweud ei bod “wrth ei bodd”.
Cafodd plentyn cyntaf y cwpl, George Alexander Louis Windsor, ei eni ar 22 Gorffennaf y llynedd, rhyw ddwy flynedd ar ôl iddyn nhw briodi.
Mae’n debyg bod Duges Caergrawnt yn dioddef o salwch bore fel y gwnaeth pan oedd yn disgwyl ei babi cyntaf, a’i bod yn cael triniaeth gan feddygon ym Mhalas Kensington.
Bu William a Kate yn byw ar Ynys Môn am gyfnod cyn geni’u mab cyntaf, tra bod y Tywysog yn cwblhau ei hyfforddiant hedfan hofrennydd o safle’r Lluw Awyr yn Y Fali.