Mae gwerth y bunt wedi cwympo heddiw i’w lefel isaf ers deng mis ar ôl y pôl piniwn YouGov dros y penwythnos a roddodd Ie ar y blaen yn refferendwm yr Alban am y tro cyntaf.

Fe ddisgynnodd gwerth cyfraddau rhai o fanciau’r Alban hefyd wrth i’r momentwm gynyddu y tu ôl i’r ymgyrch o blaid annibyniaeth, gyda gwerth RBS, Lloyds Banking Group a Standard Life yn cwympo dros 2%.

Ond er hynny, mae arweinydd ymgyrch Better Together, Alistair Darling, wedi mynnu’i fod yn “hyderus iawn” y bydd yr Albanwyr yn pleidleisio i aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

Mae rhai o brif enwau’r pleidiau gwleidyddol yn Llundain yn bwriadu dechrau ymgyrchu’n frwd dros y dyddiau nesaf i geisio perswadio’r Albanwyr i bleidleisio Na ar 18 Medi.

Hyder Darling

Mae disgwyl i’r pleidiau sydd o blaid Na gyhoeddi y bydd rhagor o bwerau’n cael eu datganoli i’r Alban os ydyn nhw’n penderfynu aros ym Mhrydain.

Ac fe fynnodd Darling fod pwerau newydd fydd yn cael eu haddo i Albanwyr yn fuan ddim yn “lwgrwobr”, fel y disgrifiwyd nhw gan Alex Salmond ddydd Sul.

“Cafodd y pwerau ychwanegol fydd yn dod i Senedd yr Alban eu cyhoeddi gan arweinwyr y pleidiau i’r gogledd ac i’r de o’r ffin sbel yn ôl,” meddai Darling ar raglen Today BBC Radio 4.

“Mae pobl wedi dweud eu bod nhw eisiau gweld yr amserlen a’r broses, ac mae hynny’n rywbeth mae’r Llywodraeth am ei gyhoeddi’r wythnos hon.

“Rydw i dal yn credu yr enillwn ni oherwydd bod mwyafrif o bobl yr Alban eisiau sicrhau dyfodol gwell a chryfach i’w hunain am genedlaethau i ddod.

“Rwy’n hyderus iawn ein bod ni am ennill y dydd.”

“Cul a negyddol”

Ond roedd cyn Brif Weinidog Llafur yn Senedd yr Alban, Henry McLeish, yn feirniadol iawn o ymgyrch Better Together ar raglen Today.

“Mae’r ymgyrch hyd yn hyn wedi bod yn gul, yn negyddol, mae wedi bod yn nawddoglyd ac wedi bod â phrinder emosiwn, prinder angerdd, prinder ysbryd,” meddai McLeish.