Martin Kimber, prif weithredwr Cyngor Rotherham
Mae prif weithredwr Cyngor Rotherham wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd yn sgil adroddiad damniol i gam-drin 1,400 o blant yn rhywiol yn y dref.

Dywedodd Martin Kimber, a ymunodd a’r awdurdod yn 2009 ei fod yn credu y byddai “arweinydd newydd yn helpu’r dref i ddod dros y digwyddiadau dros y pythefnos diwethaf yn gynt, ac yn arwydd o ddechrau newydd.”

Roedd adroddiad yr Athro Alexis Jay wedi amlinellu sut yr oedd cannoedd o blant wedi cael eu treisio a’u hecsbloetio’n rhywiol rhwng 1997 a 2013 a sut yr oedden nhw wedi cael eu hanwybyddu gan asiantaethau, gan gynnwys yr heddlu, cynghorau a swyddogion y cyngor.

Fe fydd Martin Kimber yn gadael i swydd ar ddiwedd mis Rhagfyr.