Mae disgwyl i David Cameron geisio argyhoeddi pobl yn Alban y byddwn nhw’n cael rhagor o bwerau wedi’u datganoli os ydyn nhw’n pleidleisio Na yn y refferendwm ar annibyniaeth.

Cafodd ymgyrchwyr o blaid cadw’r Alban yn y Deyrnas Unedig sioc dros y penwythnos pan ddangosodd pôl YouGov fod yr ymgyrch Ie ar y blaen am y tro cyntaf, o 51-49%.

Mae disgwyl iddyn nhw nawr gynyddu’u hymgyrchu yn y dyddiau olaf cyn y bleidlais wrth i’r posibilrwydd y gallai’r Alban adael Prydain ddod yn fwyfwy tebygol.

Fe dreuliodd Cameron y penwythnos gyda’r Frenhines yn Balmoral, ac mae disgwyl iddo ef a’r pleidiau unoliaethol gyhoeddi cynlluniau brys yr wythnos hon i gynnig mwy o bwerau i’r Alban ar ôl y refferendwm.

Mae disgwyl i wleidyddion amlycaf y blaid Lafur, gan gynnwys Ed Miliband, Gordon Brown ac Ed Balls, hefyd ymuno â’r ymgyrchu o ddifrif i geisio achub yr Undeb.

‘Trychineb llwyr’

Mewn erthygl yn y Daily Record heddiw fe alwodd Ed Balls ar i bobl yr Alban beidio â defnyddio’u pleidlais fel “protest” yn erbyn polisïau Ceidwadol y llywodraeth yn Llundain.

Mae Maer Llundain Boris Johnson hefyd wedi ymuno yn y drafodaeth, gan ddweud y byddai annibyniaeth i’r Alban yn “drychineb llwyr i’r wlad hon” ac y byddai enw da a brand rhyngwladol Prydain yn cael ei ddinistrio.

Ddoe fe fynnodd y Canghellor George Osborne y byddai cynllun ar gyfer datganoli rhagor o bwerau i’r Alban yn cael ei gyflwyno o fewn dyddiau, gydag Ed Miliband yn mynnu y gallai’r broses ddechrau’n syth ar ôl y refferendwm.

Mae disgwyl i gyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Nato, yr Arglwydd Robertson, hefyd ymuno â chyn-ysgrifennydd yr Alban Jim Murphy yn yr ymgyrch Na, ac fe fydd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander hefyd yn annerch Albanwyr i aros ym Mhrydain.

“Panig”

Mae’r ymgyrchwyr o blaid annibyniaeth, fodd bynnag, wedi dweud fod hyn yn arwydd o “banig” gan yr ochr Na, yn enwedig gan fod yr ymdrech yn dod dim ond ar ôl pôl syfrdanol y penwythnos.

Dyma’r tro cyntaf i’r polau piniwn ddangos yr ochr Ie ar y blaen, ar ôl eithrio’r rheiny oedd ddim yn gwybod neu ddim am bleidleisio, ac mae’n arwydd o’r cynnydd syfrdanol diweddar yn y gefnogaeth dros annibyniaeth, oedd 22 pwynt ar ei hôl hi yn y polau dim ond fis yn ôl.

Fodd bynnag, fe ddangosodd arolwg arall gan Panelbase fod yr ochr Na’n dal ar y blaen, o 52-48%.

Ac wrth siarad ar Sunday Politics Scotland dros y penwythnos, fe wfftiodd arweinydd yr SNP Alex Salmond gynlluniau’r unoliaethwyr gan ddweud eu bod yn ceisio “llwgrwobrwyo” pobl yr Alban.

“A oes disgwyl i ni gredu, ar ôl i gannoedd o filoedd bleidleisio eisoes, fod cytundeb radical newydd i’w gael?” gofynnodd Salmond.

“Mae hwn yn fesur o banig oherwydd bod yr ymgyrch Ie yn ennill tir.

“Maen nhw’n ceisio’n llwgrwobrwyo ni, ond wnaiff e ddim gweithio gan nad oes ganddyn nhw unrhyw hygrededd ar ôl.”

Fe ychwanegodd ddirprwy arweinydd yr SNP nad oedd hi’n credu y byddai’r ymgyrch Na yn medru “tynnu’r mwgwd dros lygad” yr etholwyr mor hwyr yn yr ymgyrch.

Ac fe gadarnhaodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood y byddai hi’n ymuno â’r ymgyrch Ie yn y dyddiau nesaf oherwydd y perygl y gall “preifateiddio” y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr arwain at dorri cyllidebau’r gwledydd datganoledig.