Mae tri o bobol wedi’u harestio yn achos llofruddiaeth mam-i-bump a gafodd ei thrywanu i farwolaeth tra’n tendio i’w cheffylau yn ardal y New Forest yn Lloegr.

Fe ddaethpwyd o hyd i Penelope Davis, 47, gan ei gwr, Pete, mewn cae ger Beaulieu, Hampshire, ar Fedi 2. Roedd hi wedi’u thrywanu nifer o weithiau.

Mae llefarydd ar ran Heddlu Hampshire wedi cadarnhau fod un o’r tri sydd wedi’u harestio yn cael ei amau o lofruddiaeth; un wedi’i arestio ar amheuaeth o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder; a’r trydydd wedi’i ddal ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae’r tri yn cael eu cadw yn y ddalfa.