Mae datganiad gan yr heddlu wedi cadarnhau y nifer o arestiadau yn ystod uwch-gynhadledd NATO yng Nghasnewydd yr wythnos hon.

Fe gafodd 31 eu dwyn i’r ddalfa, ac roedd y rheiny’n cynnwys pump am dresbasu, dau am ymosod ar heddwas, a dau am wneud galwadau ffug yn rhybuddio rhag bomiau.

Yn ystod yr uwch-gynhadledd, fe fu cannoedd o bobol yn protestio’n heddychlon, gan orymdeithio trwy ddinasoedd Caerdydd a Chasnewydd. Er hynny, meddai’r llu, roedd nifer y protestwyr yn is na’r disgwyl.