Mae corff dyn wedi cael ei adfer o’r môr oddi ar arfordir gogledd Cymru heddiw.
Fe ddaeth gwylwyr y glannau â’r corff, sydd eto i gael ei adnabod, i’r lan yn Llandrillo yn Rhos – rhwng Llandudno a Bae Colwyn – tua 11yb heddiw.
Mae llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau’r adroddiadau, ac yn dweud eu bod yn parhau i ymchwilio i’r darganfyddiad.