Mae dyn wedi ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o dorri pen hen wraig yn ei gardd gefn.
Fe gafodd Nicholas Salvador, 25, ei hebrwng i’r doc gwydr yn llys ynadon Enfield heddiw gan bedwar plismon.
Mae wedi’i gyhuddo o ladd Palmira Silva, 82, yng ngardd ei chartre’ yn Edmonton, trwy dorri ei phen ymaith gyda machete.
Fe fydd yn ymddangos gerbron llys yr Old Bailey ddydd Mawrth.