William Connors (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae heddlu yng Nghaerdydd yn apelio am wybodaeth wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i ddyn y maen nhw’n ei amau o fod yn gysylltiedig ag ymosodiad yn y brifddinas ar Awst 20.
Mae Heddlu De Cymru am ffeindio William Connors, 35 oed, sy’n dod o ardal Rhymni.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ardal Llaneirwg ar ddydd Mercher, Awst 20.
Gall unrhyw un sydd a gwybodaeth am y digwyddiad neu’r dyn gysylltu ar y rif 101, neu ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.