Mae heddlu yn Llundain wedi lladd dyn oedd yn bygwth dynes gyda chyllell mewn tŷ.
Yn ôl adroddiadau, cafodd sawl ergyd eu tanio yn y digwyddiad yn Islington, yng ngogledd Llundain, ac fe gafodd y dyn, 40, ei saethu am tua un o’r gloch y bore yma.
Fe fu farw o’i anafiadau 20 munud yn ddiweddarach ar y ffordd i’r ysbyty, yn ôl Heddlu Llundain.
Yr honiad yw fod y dyn wedi torri i mewn i gartre’r ddynes a’r gred yw eu fod y ddau yn nabod ei gilydd. Chafodd y ddynes ddim o’i hanafu.
Dywedodd llefarydd o Heddlu’r Met: “ Fel unrhyw ddigwyddiad lle mae saethu’n digwydd, mae’r achos yma wedi cael ei gyfeirio at y Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC).