Nicola Sturgeon
Mae Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi croesawu cefnogaeth undeb RMT i’r ymgyrch tros annibyniaeth.

Daw’r hwb i’r ymgyrch ‘Ie’ ar y diwrnod y teithiodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband i’r Alban i ymbil ar gefnogwyr ei blaid i wrthwynebu annibyniaeth.

Dywedodd Nicola Sturgeon wrth ymateb i’r newyddion ei fod yn “sarhad” i Miliband.

“Ar ddiwrnod ei ymweliad diweddaraf e (Miliband) â’r Alban, mae’n chwalu ei honiadau’n llwyr mai ei lais e yw llais y pleidleiswyr dosbarth gweithiol, Llafur ar draws yr Alban.

“Mae pleidleiswyr Llafur eisoes yn symud draw i bleidlais ‘Ie’ yn eu cannoedd o filoedd a chefnogaeth fel hyn fydd yn perswadio rhagor fyth ohonyn nhw i gefnogi annibyniaeth, wrth i ni geisio sicrhau mwyafrif o bleidleiswyr Llafur i bleidleisio ‘Ie’ ar Fedi 18.”

Bu’r SNP yn ymgyrchu heddiw yn Glasgow, wrth i Alex Salmond a Nicola Sturgeon ddathlu deng mlynedd fel arweinydd a dirprwy arweinydd y blaid.

Ond dywedon nhw fod “yr eiliad gorau eto i ddod ymhen pythefnos”.

Yn y cyfamser, roedd yr ymgyrch ‘Na’ – Better Together – yn ymgyrchu ochr yn ochr â chyn-filwyr yn Perth.

Roedden nhw’n ymgyrchu ar y diwrnod yr oedd arweinydd yr ymgyrch, Alistair Darling yn olygydd gwadd ar bapur newydd y Daily Record.

Fe fydd cyfle i Alex Salmond a’r ymgyrch ‘Ie’ olygu’r papur yfory.