Mae dyn 25 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi i gorff dynes gael ei ddarganfod mewn gardd yng ngogledd Llundain.
Cafodd corff y ddynes – oedd wedi cael ei dienyddio – ei ddarganfod toc wedi 1yp heddiw.
Torrodd plismon ei arddwrn wrth geisio arestio’r dyn yn ardal Edmonton y ddinas ac fe gafodd taser ei ddefnyddio wrth geisio tawelu’r dyn.
Dydy’r heddlu ddim yn credu bod rhesymau brawychol y tu ôl i’r ymosodiad ac mae ymchwiliad ar y gweill.