Mae adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Prydain yn dilyn yr helynt cig ceffyl y llynedd wedi galw am sefydlu uned i arolygu troseddau’n ymwneud â bwyd.

Dywed yr adroddiad, a gafodd ei lunio gan yr Athro Chris Elliott y byddai uned o’r fath yn sicrhau y byddai’r diwydiant a chwsmeriaid yn cael eu gwarchod rhag troseddau.

Yn ei adroddiad cychwynnol ddiwedd y llynedd, dywedodd ei bod yn “briodol bod mesurau yn eu lle i ddiogelu cwsmeriaid”.

Galwodd hefyd ar i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) i weithio’n agosach gyda Defra a’r Adran Iechyd i sefydlu cynllun rheoli argyfwng.

Daeth yr helynt cig ceffyl i’r amlwg ym mis Ionawr wedi iddi gael ei datgelu bod byrgyrs wedi’u rhewi oedd yn cael eu gwerthu mewn archfarchnadoedd yn cynnwys olion cig ceffyl ynddyn nhw.

Yn dilyn ymchwiliad pellach darganfuwyd bod cynnyrch cig eidion fel lasagne a spaghetti bolognese hefyd wedi’u heintio, a chafodd y cynnyrch ei dynnu oddi ar fwydlenni mewn ysgolion ac ysbytai.

Argymhellion

Pwysleisia’r adroddiad mai’r cwsmeriaid yw’r prif flaenoriaeth, a bod angen gwarchod eu hanghenion o ran
diogelwch bwyd.

Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion er mwyn “gwella gonestrwydd a sicrwydd y rhwydweithiau cyflenwi bwyd”.

Mae’r argymhellion yn cynnwys atal twyll o ran pecynnu bwyd, cyflwyno archwiliadau o’r diwydiant ar hap, cefnogi’r broses o ddatblygu camau er mwyn adrodd am droseddau bwyd, gwella systemau profi bwyd mewn labordai ac annog y diwydiant bwyd i gwestiynu ffynonellau eu cynnyrch.

Yn dilyn profion fis Ebrill y llynedd ar dros 500 o samplau, daeth i’r amlwg fod cig ceffyl yn bresennol mewn 1% o’r cynnyrch a gafodd ei brofi.