Ashya King
Mae rhieni Ashya King, y bachgen 5 oed sy’n dioddef o ganser, wedi disgrifio yr oedd yn cael trafferth cael ei wynt am ei fod mor hapus o weld ei deulu ar ôl 5 diwrnod o fod oddi wrthyn nhw.

Cafodd Brett a Naghmeh King eu rhyddhau o garchar yn Sbaen nos Fawrth, ar ôl cael eu harestio wedi iddyn nhw benderfynu mynd â’u mab o’r ysbyty yn Southampton i chwilio am driniaeth yn Ewrop yn groes i gyngor meddygol.

“Doedd o methu anadlu am ei fod mor hapus. Roedd wedi gwirioni ein gweld ni. Rydym yn ceisio bod yn obeithiol,” meddai Brett King.

Dywedodd hefyd fod disgwyl i arbenigwr canser ymweld ag Ashya King ddydd Iau:

“Nid yw mewn cyflwr cystal â phan wnaethom ni ei adael – mae ei ysbryd yn isel iawn ers i ni fynd. Ond fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu. Does dim llawer mwy allwn ni ei wneud.”

Roedd Brett a Naghmeh King wedi dweud mai “gweddïo a chrio” oedd yr unig beth oedden nhw’n gallu ei wneud yn y carchar wrth ddisgwyl am gael gweld eu mab.