Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys wedi dweud fod ganddo bryderon mawr am adroddiad newydd sydd wedi cael ei gyhoeddi gan gorff arolygu’r heddlu heddiw, a’i fod yn anghytuno a rhai agweddau ohono.

Dywed yr adroddiad gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi (HMIC) fod aelodau o’r cyhoedd yn derbyn ymateb gwahanol gan yr heddlu i’r un math o drosedd, yn ddibynnol ar le maen nhw’n byw.

Mae hefyd yn dweud fod rhai o’r 43 llu yng Nghymru a Lloegr wedi rhoi’r gorau i ymchwilio i rai troseddau fe dwyn cerbydau neu ddifrod troseddol, a bod swyddogion yn gofyn i’r dioddefwyr ymchwilio i’r drosedd ar ran yr heddlu.

Roedd enghraifft o un llu yn gofyn i ddioddefwyr gasglu olion bysedd, edrych ar luniau CCTV a holi cymdogion os welson nhw unrhyw beth amheus.

Ond mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, Christopher Salmon, yn credu bod yr adroddiad yn arwain HMIC i “ddyfroedd gwleidyddol peryg”.

‘Anghenion gwahanol’

“Mae’r adroddiad yn codi materion pwysig ynglŷn â rheolaeth yr heddlu. Yn anffodus, maen nhw’n cael eu colli mewn ieithwedd wleidyddol iawn sy’n trafod ‘loteri cod post’ ac yn gorchymyn bod mwy o bolisïau unffurf yn cael eu creu,” meddai Christopher Salmon.

“Mae gan wahanol ardaloedd anghenion gwahanol. Mae angen arbenigedd lleol, ac mae hynny’n golygu blaenoriaethau gwahanol.

“Rwy’n bryderus iawn ynglŷn â sut mae’r adroddiad wedi camu i mewn i ddyfroedd gwleidyddol sydd i’w weld yn gwrthddweud polisi’r Llywodraeth.

“Mae Thomas Winsor, Prif Arolygydd HMIC, yn dweud na allwn ni gael 43 enghraifft o arbenigedd lleol. Rwy’n dweud mai dyna’n union y dylem ni fod yn anelu amdano – ar gyfer 43 o anghenion gwahanol.”

‘Ffidil yn y to’

Wrth drafod yr adroddiad, dywedodd yr Arolygydd Roger Baker fu’n arwain y gwaith:

“Mae wedi dod yn ffordd o feddwl, nad ydym ni’n delio gyda’r troseddau hyn. A dyma sydd wedi digwydd gyda nifer o droseddau.

“Nid bai ar y staff yw hyn, mae’r ffordd o feddwl sydd wedi ymddangos yn yr heddlu sydd i raddau yn dweud, ‘rydym ni wedi rhoi’r ffidil yn y to’.”