Mae gweithwyr mewn ysbyty yn Liberia sy’n trin cleifion Ebola, yn dweud nad oes ganddyn nhw ddigon o gyfleusterau i gadw’r staff rhag cael eu heintio gyda’r afiechyd angheuol.

Fe wnaeth tri o weithwyr o America gael eu heintio yn Ysbyty ELWA yn Monrovia, Liberia – un ohonyn nhw nad oedd hyd yn oed yn gweithio yn yr adran Ebola.

Dywedodd Nancy a David Writebol sy’n gweithio yn yr ysbyty, fod cael gwisgoedd arbennig yn hanfodol er mwyn ceisio atal yr afiechyd rhag lledu, ac nad yw gwaith elusennau yn unig yn ddigon i ddelio’r hefo’r argyfwng.

Hyd yn hyn mae 1,900 o bobol wedi marw a 3,500 arall wedi cael diagnosis o Ebola yn Affrica.

“Does ganddom ni ddim digon o gyfarpar arbenigol i fedru cadw ein hunain yn ddiogel wrth roi diagnosis o Ebola i bobol. Mae’n risg i’r gweithwyr,” meddai David Writebol.

Ychwanegodd bod gweithwyr mewn rhai o ysbytai eraill yng ngorllewin Affrica wedi mynd ar streic yn galw am fwy o gyfleusterau i’w gwarchod rhag yr haint.