Ar ddiwrnod cyntaf uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd, mae ymgyrchwyr wedi datgan bwriad i gynnal protest yn erbyn y sefydliad milwrol, ger safle’r uwchgynhadledd yng Ngwesty’r Celtic Manor.
Mae ymgyrchwyr o’r grŵp No NATO wedi sefydlu gwersyll heddwch ar gaeau Parc Tredegar ers bron i wythnos. Dydd Sadwrn diwethaf fe wnaeth tua 1,000 o brotestwyr, gan gynnwys pobol o America, Gwlad Belg, Ffrainc ac Iwerddon yn ogystal ag o bob rhan o Gymru a Phrydain, orymdeithio trwy strydoedd Casnewydd i ddangos eu gwrthwynebiad i bolisïau NATO.
Heddiw, fe fydd ymgyrchwyr yn cwrdd am 12 o’r gloch o flaen cofgolofn Casnewydd yn Clarence Place ac yn gorymdeithio i’r Celtic Manor.
Dywed y grŵp CND Cymru y bydd 12 o’u cynrychiolwyr yn cael eu gadael drwy’r ffens ddiogelwch er mwyn dosbarthu llythyrau sy’n esbonio eu pryderon am gynghrair NATO, ei pholisïau a’i gweithredoedd.
Mae Heddlu De Cymru wedi rhybuddio teithwyr i ddisgwyl oedi ar y ffyrdd a hefyd wedi dweud y bydden nhw’n cydweithio hefo’r ymgyrchwyr i gynnal protestiadau heddychlon.
Polisïau
“Rydym yn gobeithio y bydd ein hymgyrchu dros yr wythnos diwethaf yn dangos i’r cynrychiolwyr byd nad yw llawer o bobol gyffredin yn gweld pethau fel maen nhw’n eu gweld,” meddai Is-gadeirydd CND Cymru, Dr John Cox sy’n un o’r 12 fydd yn dosbarthu llythyrau.
“Dyw ehangiad NATO heb wneud y byd yn le mwy diogel. Yn hytrach mae wedi cyfrannu at y tensiwn rhyngwladol wrth i Rwsia deimlo ei bod yn cael ei amgylchynu gan yr UD a chanolfannau NATO.
“Yn lle gwneud y byd yn le mwy diogel, mae polisïau bygythiol NATO yn ansefydlogi’r byd.
“Dylid gwario arian cyhoeddus ar iechyd, addysg, gwasanaethau cyhoeddus a chynllunio dyfodol diogel i’n plant – dim yn prynu arfau i NATO.”
Llythyr
Mewn llythyr fydd yn cael ei gyflwyno i’r gynhadledd gan Gymdeithas y Cymod, mae Ysgrifennydd y mudiad, Jane Harries, yn dweud:
“Y cwestiwn yw, all heddwch a diogelwch gael eu gwarantu gan rywbeth, sydd mewn hanfod, yn gynghrair filwrol?
“Heddiw, mae’n hawdd credu mewn gweithredoedd byrdymor i warchod yr hyn yr ydym yn ei werthfawrogi – democratiaeth, rhyddid meddwl, goddefgarwch, iaith a chrefydd.
“Ond yn y pen draw, mae Cymdeithas y Cymod yn credu na ellir cael gwared a thrais ac arswyd gyda mwy o drais ac arswyd.”