Ashya King
Mae rhieni Ashya King wedi gweld eu mab am y tro cyntaf yn yr ysbyty yn Sbaen lle mae’n derbyn triniaeth am ganser.

Cafodd y ddau eu harestio a’u cadw yn y ddalfa wedi iddyn nhw benderfynu mynd â’u mab o’r ysbyty yn Southampton i chwilio am driniaeth yn Ewrop.

Ond yn ol adroddiadau ni fydd Brett a Naghmeh King yn cael mynd a’u mab o’r ysbyty yn Malaga.

Yn ol llefarydd ar ran yr ysbyty maen nhw wedi cael eu hysbysu gan swyddogion ym Mhrydain na ddylen nhw ganiatau i’r cwpl fynd a’u mab o’r ysbyty.

Penderfynodd llys ym Madrid yn gynharach na fyddai’r cwpl yn cael eu herlyn ac y byddai ganddyn nhw hawl i weld eu mab.

Mae awdurdodau Prydain eisoes wedi rhoi’r gorau i’w cynlluniau i estraddodi’r rhieni oherwydd yr ymateb negyddol a gafodd y penderfyniad.