Mae 18 o swyddi yn y fantol wedi i elusen YMCA Cymru fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Mae gan yr elusen dair swyddfa yng Nghymru, gan gynnwys prif swyddfa yn ardal Llansamlet yn Abertawe, a dwy arall yn Niwgwl yn Sir Benfro a Rhaeadr.
Gweinyddwyr Grant Thornton sy’n gyfrifol am reoli’r cwmni ar hyn o bryd.
Cafodd YMCA Cymru ei sefydlu yn 1981.
Daw’r newyddion yn fuan wedi i gwmni GYG Exchange, sy’n berchen ar y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd, gyhoeddi eu bod nhw hefyd wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Maen nhw’n dweud mai cyflwr y farchnad a chostau cynnal a chadw sy’n gyfrifol am eu penderfyniad.