Ashya King
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi dweud na fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn rhieni Ashya King, y bachgen 5 oed sy’n dioddef o ganser yr ymennydd.
Mae disgwyl y bydd Brett a Naghmeh King yn cael gweld eu mab eto’n fuan ar ol i’r achos yn eu herbyn gael ei ollwng.
Yn gynharach prynhawn ma roedd David Cameron wedi galw am ddefnyddio “synnwyr cyffredin” er mwyn caniatáu i Ashya King gael gweld ei rieni.
Roedd y Prif Weinidog wedi mynnu nad oedd y Llywodraeth yn gallu ymyrryd yn y broses gyfreithiol ond dywedodd ei fod am weld y teulu yn ôl gyda’i gilydd.
Ond y prynhawn ma fe wnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron gais yn yr Uchel Lys yn Llundain i ddileu’r gwarant i arestio Brett a Naghmeh King. Cafodd y ddau eu harestio yn Sbaen ar ôl iddyn nhw fynd ag Ashya o Ysbyty Cyffredinol Southampton yn groes i gyngor meddygol.
Maen nhw wedi treulio noson arall heb eu mab ar ôl i farnwr yn Madrid ddyfarnu y dylen nhw gael eu cadw gan yr heddlu am hyd at 72 awr tra bod y llys yn ystyried cais i’w hanfon yn ôl i Brydain.
Dywedodd David Cameron wrth LBC bod yr achos wedi ei atgoffa o’i fab Ivan a oedd yn ddifrifol wael ac a fu farw yn 2009, a’r anawsterau sy’n deillio o hynny.
“Rydw i, fel pawb arall yn y wlad, am weld y bachgen bach yma gyda’i rieni unwaith eto. Rwy’n gobeithio y bydd synnwyr cyffredin yn cael ei ddefnyddio fel bod y teulu yn gallu bod gyda’i gilydd a bod y bachgen bach yn cael y driniaeth orau, un ai yn y DU neu yn rhywle arall.”
Roedd Cyngor Dinas Portsmouth, a ddechreuodd y camau cyfreithiol ar ol i Ashya gael ei gymryd o’r ysbyty, wedi annog Gwasanaeth Erlyn y Goron i adolygu’r achos “ar frys” fel bod rhieni Ashya yn gallu dychwelyd ato.
Maen nhw hefyd wedi dweud y dylid gollwng cais i estraddodi’r cwpl.