Roger Stone, cyn arweinydd Cyngor Rotherham
Mae Llafur wedi gwahardd pedwar aelod o’r blaid oedd yn dal swyddi o awdurdod ar Gyngor Rotherham yn ystod y blynyddoedd pan gafodd cannoedd o bobl ifanc eu cam-drin yn rhywiol yn y dref.

Daeth y gwaharddiadau wrth i Brif Gwnstabl Heddlu De Swydd Efrog, David Crompton, gyhoeddi ymchwiliad annibynnol i’r ffordd wnaeth yr heddlu drin â honiadau o gam-drin.

Dywedodd David Crompton y byddai’r ymchwiliad gan lu heddlu allanol yn archwilio rôl yr heddlu a’r cyngor dros gyfnod o 16 mlynedd – cyfnod y gwnaeth adroddiad annibynnol ddarganfod bod o leiaf 1,400 o blant a phobl ifanc wedi eu cam-drin yn y dref.

Roedd adroddiad damniol gan yr Athro Alexis Jay, a gyhoeddwyd wythnos diwethaf, wedi nodi nifer o enghreifftiau o ferched – gyda llawer ohonynt yng ngofal yr awdurdod lleol – a gafodd eu treisio, eu masnachu a’u bygwth â thrais eithafol.

Roedd yr adroddiad hefyd wedi darganfod bod uwch swyddogion y cyngor, aelodau etholedig a swyddogion yr heddlu yn ymwybodol o’r broblem am flynyddoedd ond wedi methu mynd i’r afael â hi.

Ar raglen Panorama’r BBC neithiwr, dywedodd ymchwilydd yn y Swyddfa Gartref, na chafodd ei enwi, a oedd ymchwilio i’r honiadau fwy na degawd yn ôl, ei bod hi wedi cael ei rhoi o dan bwysau i newid ei chanfyddiadau.

Roedd Cyngor Bwrdeistref Rotherham o dan reolaeth Llafur drwy gydol y cyfnod dan sylw, ac mae’r blaid bellach wedi gwahardd cyn-arweinydd yr awdurdod, Roger Stone a’r cyn-ddirprwy arweinydd, Jahangir Akhtar.

Yn ogystal, mae cynghorwyr sy’n parhau i wasanaethu – Gwendoline Ann Russell a Shaukat Ali y cyn-faer – hefyd wedi eu gwahardd. Meddai’r Blaid Lafur y bydd y gwaharddiadau’n parhau tra bod ymchwiliad ar y gweill.

Mae Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur hefyd wedi cymryd rheolaeth o weithdrefn “llym” newydd ar gyfer dethol ymgeiswyr i’r cyngor lleol yn y dref.