Mae’r bwlch rhwng Ie a Na yn refferendwm yr Alban bellach wedi lleihau i chwe phwynt, yn ôl y pôl diweddaraf gan YouGov ychydig dros bythefnos cyn y bleidlais.
Dangosodd y canlyniadau diweddaraf fod Ie bellach ar 47%, gyda na ar 53%, ar ôl tynnu’r rhai oedd heb benderfynu.
Mae’n newid sylweddol ers pôl diwethaf YouGov bythefnos yn ôl oedd yn dangos y bwlch yn 14 pwynt, a hyd yn oed yn fwy syfrdanol o’i gymharu â’r bwlch o 22 a welwyd mewn pôl arall ganddyn nhw lai na mis yn ôl.
Hwn yw’r ffigwr uchaf erioed o blaid annibyniaeth sydd wedi’i ddangos mewn pôl YouGov, sydd yn y gorffennol wedi dangos cefnogaeth is i Ie na rhai o’r cwmnïau polau eraill.
Effaith y ddadl deledu?
Mae’n awgrymu fod yr ail ddadl deledu, pan ddywedodd mwyafrif helaeth fod arweinydd yr SNP Alex Salmond wedi perfformio orau, wedi creu tipyn o argraff ar feddyliau pobl.
“Mae’r pôl arwyddocaol hwn yn dangos fod gan Ie’r momentwm,” meddai Blair Jenkins, prif weithredwr ymgyrch Yes Scotland.
“Mae’n ogwydd o wyth pwynt o Na i Ie mewn dim ond tair wythnos. Dim ond gogwydd o dri phwynt arall sydd angen arnom i gael Ie i’r Alban ar 18 Medi.”
Mewn ymateb dywedodd cyfarwyddwr ymgyrch Better Together, Blair McDougall, fod angen i’r “mwyafrif tawel” oedd o blaid Na i chwarae mwy o ran.
“Mae’r cenedlaetholwyr yn siarad fel petai nhw’n ennill ond y gwir yw fod hwn yn bôl arall sy’n dangos yr ymgyrch i gadw’r Alban yn y DU yn aros ar y blaen,” meddai.
Y ffraeo’n parhau
Gan gynnwys y rheiny oedd heb benderfynu, roedd y pôl yn dangos 42% o blaid annibyniaeth, 48% yn erbyn, 8% heb benderfynu a 2% ddim am bleidleisio.
Roedd hyn yn cymharu â 38% oedd o blaid annibyniaeth a 51% yn erbyn ym mhôl diwethaf YouGov bythefnos yn ôl, gyda 9% heb benderfynu.
Daw’r pôl yn dilyn wythnos danllyd yn yr ymgyrch dros y refferendwm, gyda’r ochr Ie yn beirniadu fideo Better Together am fod yn ddilornus i ferched, a’r hashnod #PatrnonisingBTLady yn trendio oherwydd hynny.
Yn ogystal â hynny, mae’r ddwy ochr wedi beirniadu elfennau ymosodol o’r naill ymgyrch, gydag wyau’n cael eu taflu ar yr AS Jim Murphy wrth iddo siarad mewn rali Better Together, a dyn hefyd yn cael ei ganfod yn euog am fygwth Alex Salmond.