John Bercow
Mae llefarydd Tŷ’r Cyffredin John Bercow wedi cyhoeddi y bydd na “saib” cyn i brif glerc a phrif weithredwr newydd Tŷ’r Cyffredin yn cael ei benodi, yn dilyn beirniadaeth o’r person sydd wedi cael ei ddewis.

Dywedodd John Bercow ei fod yn gobeithio y byddai’n bosib parhau gyda’r broses recriwtio “gyda chydsyniad” ac y byddai cyfrifoldebau’r clerc Syr Robert Rogers, sydd wedi ymddeol, yn cael eu rhannu ymhlith aelodau o fwrdd rheoli Tŷ’r Cyffredin yn y cyfamser.

Cafodd Carol Mills o Awstralia ei phenodi i’r swydd ar 30 Gorffennaf. Mae hi ar hyn o bryd yn Bennaeth yr Adran Gwasanaethau Seneddol yn Canberra. Ond mae’n ymddangos bod rhai ASau wedi mynegi pryder am ei phenodiad gan dynnu sylw at ei diffyg gwybodaeth am weithdrefnau San Steffan a’i diffyg profiad ar gyfer y swydd, sy’n talu cyflog o £200,000.

Mae AS Henffordd a De Swydd Henffordd Jesse Norman wedi cyflwyno cynnig yn galw am roi’r cyfle i’r Senedd graffu ar y penodiad. Mae 84 o ASau wedi arwyddo’r cynnig.

Mae Jesse Norman yn gwrthwynebu’r bwriad i rannu’r swydd yn ddwy fel bod clerc a phrif weithredwr newydd yn cael eu penodi. Yn ôl yr AS mae hyn yn profi nad yw Carol Mills yn gymwys ar gyfer rôl y clerc.

Mae Downing Street wedi mynnu bod yn rhaid i’r clerc newydd gael cefnogaeth ASau. Y Prif Weinidog sy’n gyfrifol am drosglwyddo’r argymhelliad i’r Frenhines er mwyn cael sêl bendith derfynol.